Our content in Welsh
Croeso i Cambrian Counselling
Cwnsela Cyfrinachol Un i Un Ar-lein a dros y Ffôn
gyda Helena Venables, Dip Psych Couns, MBACP
Mae pob un ohonom yn wynebu cyfnodau heriol ac emosiynol boenus yn ein bywydau sy’n gallu arwain at deimlo'n bryderus, yn ynysig, yn isel ein hysbryd, ac wedi ein llethu. Mae hyn hyd yn oed yn fwy gwir heddiw gyda phandemig Covid-19 yn creu gofid i gymaint o bobl.
Rwy'n cynnig gwasanaeth cwnsela un i un hamddenol, anfeirniadol a chyfrinachol ar-lein neu dros y ffôn. Mae gwrando ar fy nghleientiaid a'u deall yn sylfaenol i fy ngwaith cwnsela ac rwy'n cynnig amgylchedd tawel a chefnogol i chi siarad yn agored am eich teimladau. Rwy'n gweithio yn yr iaith Saesneg.
Sut y gall cwnsela eich helpu chi
Mae cwnsela, a elwir hefyd yn seicotherapi, yn therapi siarad cyfrinachol ac anfeirniadol. Mae cwnsela yn darparu lle diogel a chyfrinachol i chi siarad â gweithiwr proffesiynol hyfforddedig am y problemau rydych chi'n eu hwynebu.
Ni fydd eich cwnselydd yn rhoi barn a chyngor penodol nac yn rhagnodi meddyginiaeth. Bydd yn eich helpu i ystyried eich meddyliau, eich teimladau a'ch ymddygiad a dod o hyd i'ch atebion eich hun, gan wneud newidiadau effeithiol yn eich bywyd neu ddod o hyd i ffyrdd o reoli'n well yr heriau sy'n effeithio arnoch chi.
Amdanaf i
Helena Venables
Dip Psych Couns, MBACP
Rwy'n gwnselydd wedi fy hyfforddi'n broffesiynol gyda Diploma mewn Cwnsela Seicotherapiwtig ac rwy’n Aelod Cofrestredig o Gymdeithas Cwnsela a Seicotherapi Prydain (BACP).
Fe wnes i gwblhau fy hyfforddiant Diploma tair blynedd gyda Gwasanaethau Cwnsela Chichester yng Ngorllewin Sussex a derbyniais fy Niploma ym mis Mehefin 2012.
Mae fy ngwaith fel cwnselydd yn cynnwys ond heb ei gyfyngu i helpu cleientiaid â phryder; profedigaeth; iselder; galar; colled; hunan-barch isel; problemau perthynas; straen; teimladau hunanladdol; trawma; a phroblemau’n ymwneud â gwaith.
Sut rydw i'n gweithio
Fy null o gwnsela yw darparu lle cynnes, cyfeillgar a diogel i chi ystyried yr heriau rydych chi'n eu hwynebu. Ni fyddaf yn eich barnu, waeth beth fyddwch chi’n ei rannu yn y sesiwn, a byddaf yn gweithio'n agos gyda chi i feithrin perthynas lle mae’r ddwy ochr yn ymddiried yn ei gilydd sy'n rhoi rhyddid i chi ddatgelu a thrafod beth bynnag sy'n eich poeni.
Rwy'n defnyddio dull sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn sy'n golygu bod eich cwnsela yn cael ei arwain gennych chi, nid gen i. Byddwch yn cadw rheolaeth dros gynnwys a chyflymder y sesiynau cwnsela gan wybod nad ydych chi'n cael eich gwerthuso na'ch asesu mewn unrhyw ffordd.
Fel Aelod Cofrestredig o Gymdeithas Cwnsela a Seicotherapi Prydain (BACP) rwy'n cadw at Fframwaith Moesegol 2018 ar gyfer y Proffesiynau Cwnsela.
Mae hefyd yn un o ofynion cofrestru gyda BACP fy mod yn cynnal sesiwn oruchwylio bob mis, math arbenigol o fentora proffesiynol. Mae hyn yn rhoi cyfle i mi fyfyrio ar bob agwedd ar fy ymarfer i sicrhau fy mod i'n gweithio mor effeithiol, diogel a moesegol â phosibl.
Rwy'n mynychu hyfforddiant a chyrsiau Datblygiad Proffesiynol Parhaus yn rheolaidd er mwyn diweddaru fy ngwybodaeth a fy sgiliau cwnsela.
I gael rhagor o wybodaeth, edrychwch ar y dudalen Gwybodaeth Ymarferol a Ffioedd neu cysylltwch â mi:
helena@cambriancounselling.com
07974780717 neu 01974 831363
Diolch.